Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Amdanom Ni
    Aelodaeth
    Bwrdd Ymddiriedolwyr
    » Cyngor Polisi
    Staff
    Cysylltu a Ni
    Rhoddion

Yr ydych yn : Amdanom Ni »Cyngor Polisi
Cyngor Polisi

Fe sefydlwyd Cyngor Polisi Plant yng Nghymru yn 2005. Y mae’i swyddogaethau yn cynnwys:

  • Nodi materion, pryderon a blaenoriaethau y dylid eu tynnu at sylw, ac y dylent gael sylw gan Plant yng Nghymru.  
  • Cynghori ynglyn â pholisïau, blaenoriaethau a rhaglenni gwaith Plant yng Nghymru; yn neilltuol, i fod yn weithredol gysylltiedig â datblygu ac adolygu cynllun strategol a rhaglen waith Plant yng Nghymru. 
  • Derbyn cyfarwyddiadau a gwybodaeth oddi wrth Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
  • Ystyried deisyfiadau oddi wrth Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a/neu Uwch-Reolwyr i roi sylwadau gwybodus ynglyn â materion neilltuol.
  • Bwrw sylwadaeth ar faterion a ystyrir gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. 
  • Hyrwyddo gwaith Plant yng Nghymru drwy’r gwahanol ddisgyblaethau, sectorau a’r ardaloedd i gyd yng Nghymru.
  • Datblygu peirianwaith priodol ar gyfer cyfraniad effeithiol plant a phobl ifanc i waith Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r Cyngor Polisi.
  • Maniffesto 2007
Aelodaeth o’r Cyngor Polisi

Y mae’r Cyngor Polisi wedi’i ffurfio o’r canlynol:

  • Y mae holl aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn aelodau awtomatig o’r Cyngor Polisi. 
  • Fe ellir penodi hyd at 10 aelod o’r Cyngor Polisi o sefydliadau sydd â diddordeb uniongyrchol yn, a chyfrifoldebau yn gysylltiedig â gwasanaethau i blant.  Y mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys: Y Ddraig Ffynci, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol,  y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Cydffederasiwn y GIG a Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu.
  • Fe ellir ethol hyd at 21 o aelodau i’r Cyngor Polisi drwy bleidlais gan yr aelodau.  Fe etholir yr aelodau hyn yn y fath fodd fel bod yna gynrychiolaeth o’r sector gwirfoddol, cyrff iechyd, addysg, y gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau eraill yn y sector statudol, cymdeithasau proffesiynol, adrannau academaidd, aelodau unigol ac asiantaethau preifat.
Aelodaeth Cyngor Polisi
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313