Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • »Amdanom Ni
    Aelodaeth
    Bwrdd Ymddiriedolwyr
    Cyngor Polisi
    Staff
    Cysylltu a Ni
    Rhoddion

Yr ydych yn : Amdanom Ni
Amdanom Ni

Y mae Plant yng Nghymru yn gorff aelodaeth ac y mae’n agored i unigolion a sefydliadau o ystod eang o feysydd gydag amrywiol ddiddordebau, ond y mae ganddynt i gyd ddiddordeb mewn gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Pe byddech yn penderfynu ymuno â ni, fe allech ddod yn rhan o’r rhwydweithiau mwyaf o weithwyr proffesiynol yng Nghymru, sydd â diddordeb mewn plant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Fel aelod, fe allwch ddisgwyl elwa oddi wrth ein harbenigedd mewn datblygu polisi, gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chyfathrebu gyda rhwydweithiau amlasiantaethol yn y sectorau statudol a gwirfoddol.

Fe ddaw ein 200 o aelodau presennol o’r sectorau gwirfoddol, statudol a phreifat, ac y maent yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaethau Iechyd, Cyrff Gwirfoddol, Prifysgolion, Ysgolion, Meithrinfeydd, Canolfannau Teuluoedd a Chyfreithwyr.

Pa fuddion y gallwch chi ddisgwyl eu derbyn?

Fel aelod o Plant yng Nghymru, fe fyddwch yn gymwys i gael amryw o fuddion arbenigol, gan gynnwys:

  • Cyfrannu i ddadleuon polisi a deddfwriaethol cyfredol a chymryd rhan yn anghynhwysol mewn ymatebion ymgynghoriadau aelodau.  
  • Disgowntiau sylweddol oddi ar holl gynadleddau, digwyddiadau, cyrsiau hyfforddi a chyhoeddiadau Plant yng Nghymru. 

Cliciwch yma i gael golwg ar y rhestr gyflawn o Fuddion Aelodaeth.

Sut i ymgeisio?

Cliciwch yma i gael ein Ffurflen Gais ar gyfer Aelodaeth a manylion ynglŷn â’n Cyfraddau Tanysgrifio cyfredol.

Unrhyw gwestiynau?   

Y mae gan Plant yng Nghymru Gydlynydd Aelodaeth a Marchnata a all ateb unrhyw gwestiynau yn ymwneud ag aelodaeth.  Fe allwch gysylltu â Cathy Morris drwy ffonio 029 2034 2434 neu drwy anfon e-bost: membership@childreninwales.org.uk

Aelodaeth
Bwrdd Ymddiriedolwyr
Cyngor Polisi
Staff
Cysylltu a Ni
Rhoddion
Dolenni Cysylltiol
Biwro Cenedlaethol y Plant
Y mae Biwro Cenedlaethol y Plant yn gorff ymbarél dros y sector plant yn Lloegr ac y mae’n hyrwyddo lleisiau, buddiannau a lles holl blant a phobl ifanc drwy bob agwedd o’u bywydau i gyd.
Plant yn yr Alban
Plant yn yr Alban yw’r asiantaeth genedlaethol ar gyfer cyrff gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd yn yr Alban.
Plant yng Ngogledd Iwerddon
(CiNI) yw’r sefydliad ymbarél rhanbarthol dros sector gwirfoddol y plant yng Ngogledd Iwerddon. Y mae’n cynrychioli buddiannau plant a’r sector gwirfoddol sy’n gweithio ar eu rhan.
Eurochild AISBL
Rhwydwaith rhyngwladol o fudiadau ac unigolion sy’n gweithio yn a ledled Ewrop i wella ansawdd bywyd i blant a phobl ifanc.
Fforwm Rhyngwladol dros Les Plant
Y mae’n gweithio dros blant yn fyd-eang i wella ansawdd eu bywydau ac i ddyrchafu cyfleoedd ar gyfer datblygu’u llawn botensial.
Adnoddau Cysylltiol
:Adroddiad blynyddol Plant yng Nghymru 2006-07
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313