Yr ydym angen cyllid i’n cynorthwyo ni i fod yn rym nerthol ac effeithiol dros newid ym mywydau plant. Fe fydd unrhyw arian y gallwch ei ddarparu yn ein galluogi ni i barhau i ddylanwadu ar benderfyniadau polisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc ac i ledaenu gwybodaeth ac adnoddau hanfodol drwy’n Fforymau a’n Rhwydweithiau. Fe fyddwch hefyd yn ein cynorthwyo ni i greu mwy o gyfleoedd i weithio gyda phlant a phobl ifanc eu hunain, fel eu bod yn gallu cymryd rhan weithredol gyda dirnad eu pryderon a’n cynorthwyo ni i ddatblygu atebion ymarferol.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwneud rhodd, cysylltwch â:
Graham Roddis, Swyddog Cyllid, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434
Lawrlwythwch Ffurflen Rhoddion.