Y mae Plant yng Nghymru yn gorff aelodaeth ac y mae’n agored i unigolion a sefydliadau o ystod eang o feysydd gydag amrywiol ddiddordebau, ond y mae ganddynt i gyd ddiddordeb mewn gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Pe byddech yn penderfynu ymuno â ni, fe allech ddod yn rhan o’r rhwydweithiau mwyaf o weithwyr proffesiynol yng Nghymru, sydd â diddordeb mewn plant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Fel aelod, fe allwch ddisgwyl elwa oddi wrth ein harbenigedd mewn datblygu polisi, gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chyfathrebu gyda rhwydweithiau amlasiantaethol yn y sectorau statudol a gwirfoddol.
Fe ddaw ein bron i 250 o aelodau presennol o’r sectorau gwirfoddol, statudol a phreifat, ac y maent yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaethau Iechyd, Cyrff Gwirfoddol, Prifysgolion, Ysgolion, Meithrinfeydd, Canolfannau Teuluoedd a Chyfreithwyr.
Pa fuddion y gallwch chi ddisgwyl eu derbyn?
Fel aelod o Plant yng Nghymru, fe fyddwch yn gymwys i gael amryw o fuddion arbenigol, gan gynnwys:
Cliciwch yma i gael golwg ar y rhestr gyflawn o Fuddion Aelodaeth.
Sut i ymgeisio?
Cliciwch yma i gael ein Ffurflen Gais ar gyfer Aelodaeth a manylion ynglŷn â’n Cyfraddau Tanysgrifio cyfredol.
Unrhyw gwestiynau?
Y mae gan Plant yng Nghymru Gydlynydd Aelodaeth a Marchnata a all ateb unrhyw gwestiynau yn ymwneud ag aelodaeth. Fe allwch gysylltu â Cathy Morris drwy ffonio 029 2034 2434 neu drwy anfon e-bost: membership@childreninwales.org.uk