Y mae yna rwydwaith newydd i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant gweithwyr mudol wedi’i sefydlu gan Plant yng Nghymru.
Fe ddaw plant gweithwyr mudol i fyw yng Nghymru gyda’u rhieni pan ddônt yma i ganfod cyfleoedd am waith. Fe all dod i wlad newydd gynnig llawer o heriau i blentyn neu berson ifanc. Y maent ymaith o’u cartref a’r amgylchoedd y maent wedi arfer â hwynt ac fe allant gael trafferthion gydag iaith a all ei gwneud hi’n anodd iddynt gael y gorau o’r gwasanaeth addysg a gwasanaethau eraill. Fe all fod yna hefyd wahaniaethau diwylliannol sydd yn ei gwneud hi’n anodd iddynt addasu i’w bywydau yma.
Y mae’r rhwydwaith newydd wedi’i sefydlu i alluogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r plant a phobl ifanc hyn i ddod ynghyd i drafod problemau, rhannu syniadau a chwilio am atebion.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sean O'Neill, Cyfarwyddwr Polisi.
Ar gyfer manylion am gyfarfodydd, ewch i'r tudalen Digwyddiadau.