Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Digwyddiadau

Yr ydych yn : Digwyddiadau »Hyrwyddo Defnydd Cadarnhaol a Diogel o’r Rhyngrwyd
Hyrwyddo Defnydd Cadarnhaol a Diogel o’r Rhyngrwyd
Lleoliad:Cei Connah, Sir y Fflint
Dyddiad:23 Ebr 2008
Trefnwyd Gan:Plant yng Nghymru

Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn rhoi ymwybyddiaeth o raglenni a thechnolegau newydd y Rhyngrwyd a symudol i weithwyr proffesiynol. Byddir yn ymchwilio materion yn amrywio o hyfedredd Rhyngrwyd, llythrennedd Rhyngrwyd a materion diogelwch, yn ogystal â meithrin perthynas amhriodol mewn ystafelloedd sgwrsio, seibr-fwlio, ysbïwedd, spam a sgamiau fel "phishio".

Mae’r Rhyngrwyd heddiw yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer addysg, dysgu, hwyl ac adloniant! Fodd bynnag, nid yw llawer o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn defnyddio’r Rhyngrwyd yn yr un ffordd â phobl ifanc, ac mae llawer ohonynt yn ansicr am arferion ar-lein pobl ifanc. Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i dechnolegau Rhyngrwyd newydd ac yn ymchwilio sut mae pobl ifanc yn eu defnyddio. Bydd hefyd yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall yn well y cyfleoedd cadarnhaol y mae’r technolegau hyn yn eu cyflwyno. Bydd cynrychiolwyr yn ennill dealltwriaeth o’r risgiau ar-lein a gaiff eu hwynebu gan bobl ifanc a’u helpu i ddeall a rheoli materion allweddol Diogelwch Rhyngrwyd. Bydd y gweithdy hefyd yn darparu adnoddau a strategaethau i sicrhau fod cynrychiolwyr yn rheoli eu diogeledd personol eu hunain a phobl ifanc ar-lein. Bydd pob cynrychiolydd yn cael mynediad i gyfrifiadur drwy gydol y gweithdy er mwyn ennill dealltwriaeth ymarferol o’r cysyniadau a’r materion a drafodir.

Cyflwynir y gweithdy gan Dr Sangeet Bhullar, sefydlydd a Chyfarwyddydd Gweithredol WISE KIDS.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Plant yng Nghymru ar 029 2034 2434.

Mae ffurflen archebu a thaflen wybodaeth ar gael i lawrlwytho ar y de.

Dolenni Cysylltiol
Plant Doeth - Wise Kids
Wise Kids (Plant Doeth) mudiad Cymreig sy’n ceisio gweithio gyda chymunedau, mudiadau ieuenctid, awdurdodau addysg lleol ac ysgolion ledled Cymru a mannau eraill, i ddarparu a gweithredu rhaglenni ar-lein a bywyd go iawn i godi ymwybyddiaeth o ddefnyddio’r Rhyngrwyd yn gadarnhaol a diogel.
Adnoddau Cysylltiol
:HYRWYDDO DEFNYDD CADARNHAOL A DIOGEL O’R RHYNGRWYD
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313