Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Confensiwn y CU
    • Erthyglau 1- 10
    • Erthyglau 11 - 20
    • Erthyglau 21 - 30
    • Erthyglau 31 - 42
    • Cadw Golwg ar y Confensiwn
  • Buddion Aelodaeth
  • Byrddau Trafod

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Cadw Golwg ar y Confensiwn
Cadw Golwg ar y Confensiwn

Crynodeb o gynnydd ynglŷn ag Adrodd ar Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru

Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig lofnodi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn 1991, ac y mae’n rhaid iddi gyflwyno adroddiad ar gyfnodau rheolaidd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ynglŷn â sut y mae’r Confensiwn yn cael ei weithredu yn y Deyrnas Unedig.

Fel rhan o’r broses adrodd amgen i’r Pwyllgor Monitro, fe gyhoeddwyd Aros, Edrych, Gwrando: sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru ym mis Tachwedd 2007 gan Grŵp Monitro CCUHP, sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau y cydgysylltir mewn modd effeithiol y gwaith o gadw golwg ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru. Y mae Plant yng Nghymru yn aelod gweithredol o’r grŵp hwn.

Fe ddatgelodd yr adroddiad fod Cymru wedi gwneud cynnydd arwyddocaol ar hawliau plant ond bod angen gwneud mwy. (Ym mis Mawrth 2009, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Dilyn y Ffordd at Hawliau, fel ymateb i’r adroddiad.)  

Fe gyflwynwyd Aros, Edrych, Gwrando yn 2008 i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar gyfer eu harchwiliad cyfnodol o’r Wladwriaeth Brydeinig, ynghyd â’r adroddiadau canlynol:

  • Gweithredu’r Hawliau (2007) – Dyma adroddiad cynnydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.  Y mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar gynnydd a wnaed ers i’r Cenhedloedd Unedig y tro diwethaf ystyried cynnydd y Deyrnas Unedig ar weithredu’r Confensiwn yn 2002.
  • Pam fod oed pobl yn mynd i fyny, nid lawr (7-10 mlwydd oed) ac Ein Hawliau Ni, Ein Stori Ni (11-18 mlwydd oed) (2007) – Y mae’r adroddiadau hyn yn ganlyniad ymchwil gan Draig Ffynci, a edrychodd ar farn pobl ifanc ledled Cymru i weld a oeddynt yn teimlo’u bod yn derbyn yr hawliau a amlinellwyd yn CCUHP ac fe wnaethant gynhyrchu’r adroddiadau hyn.
  • Adroddiad Comisiynwyr Plant y Deyrnas Unedig i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2008) – Y mae’r adroddiad hwn, a luniwyd gan y pedwar comisiynydd plant yn y Deyrnas Unedig, yn craffu ar berfformiad llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig ar hawliau plant.
  • Llywodraeth y Deyrnas Unedig – y 3ydd a’r 4ydd Adroddiad Cyfnodol Cyfunol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2007) – Fe wnaeth yr adroddiad hwn amlinellu sut y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflawni’u dyletswyddau o dan y confensiwn.  Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd a gydlynodd y gwaith o ysgrifennu’r adroddiad.

Yn dilyn ystyriaeth o’r dystiolaeth a gyflwynwyd, a Gwrandawiad Llafar yn y Cenhedloedd Unedig yn Genefa, fe gyhoeddwyd arsylwadau casgliadol y Pwyllgor ym mis Hydref 2008.  Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithio gyda chyrff anllywodraethol, plant a phobl ifanc a phartneriaid eraill i ddatblygu cynllun gweithredu ar y cyd yn seiliedig ar yr arsylwadau casgliadol hyn, sef Gwneud pethau'n iawn 2009: cynllun pum mlynedd, a cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2009.

Ymwelwch â www.uncrcletsgetitright.co.uk am fwy o wybodaeth.

Y mae’n rhaid i’r Deyrnas Unedig gyflwyno’u pumed adroddiad cyfnodol erbyn 14 Ionawr 2014.

Adnoddau

  • 'Cywiro'r cam: reality hawliau plant yng Nghymru'
  • UNCRC Reporting in Wales Update July 2006
  • UNCRC Monitoring Group Scoping Exercise

 
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Cadw Golwg ar y Confensiwn

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence