Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
    » Ymgynghoriadau
    Adroddiadau ar Ymatebion i Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
  • Cyfranogi
  • Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc
  • Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant 4 Cenedl
  • Lloegr, San Steffan a Whitehall
  • Gogledd Iwerddon
  • Yr Alban

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Polisi »Ymgynghoriadau »Ymgynghoriadau »Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu i'r Hawliau, 5/2/04 [C]
Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu i'r Hawliau, 5/2/04 [C]
Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y 5ed o Chwefror, 2004, fe gyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Jane Hutt, y papur - Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu'r Hawliau. Fe rydd y ddogfen hon fanylion y cynnydd sydd wedi'i wneud gan y Cynulliad a'i ymrwymiadau ar gyfer y dyfodol.

Rhan 1: Ein Hymrwymiad sy'n amlinellu ymrwymiad y Cynulliad yn gysylltiedig â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC); Comisiynydd Plant Cymru; Cyfraniad plant a phobl ifanc; Datblygiad cynaladwy; Cosbi plant yn gorfforol; Plant mewn angen; ac Amrywiaeth a chyfle cyfartal.

Rhan 2: Gwneud i Bethau Ddigwydd sy'n nodi'r newidiadau y mae'r Cynulliad yn dymuno'u gwneud er mwyn gweithredu'u hymrwymiadau, sy'n cynnwys archwilio gwaith Is-Bwyllgor y Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc; Adolygiad o ddiogelu plant sy'n agored i niwed; Partneriaethau Fframwaith; Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd; Arolygu; a gweithlu'r sector gofal, addysg ac iechyd.

Rhan 3: Y Saith Nod Craidd sy'n nodi'r hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud dros blant a phobl ifanc o dan bob un o'i amcanion craidd sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

  • Nod 1: Cychwyn Bywyd yn Dda; sy'n ystyried Cychwyn Cadarn; Cymorth i Rieni gyda Magu Plant; Addysg yn y Blynyddoedd Cynnar a Datblygu Medrau Iaith a Llythrennedd;

  • Nod 2: Ystod Gynhwysfawr o Gyfleoedd Addysg, Hyfforddiant a Dysgu; sy'n cynnwys archwilio'r Wlad Sy'n Dysgu; Asesu a Phrofi; Gwrando ar Ddysgwyr; Bwlio; Gwahardd; Addysg gynhwysol; a Brecwast mewn ysgolion;

  • Nod 3: Yr Iechyd Gorau Posibl yn Rhydd oddi wrth Gamdriniaeth, Erlidigaeth a Chamfanteisio sy'n ystyried plant mewn angen, diogelu plant, ac iechyd plant a phobl ifanc;

  • Nod 4: Gweithgareddau Chwarae, Hamdden, Chwaraeon a Diwylliant;

  • Nod 5: Eu Trin gyda Pharch a Chydnabyddiaeth i'w Hil a'u Hunaniaeth Ddiwylliannol;

  • Nod 6: Cartref a Chymuned Ddiogel sy'n ystyried atal digartrefedd; troseddau ieuenctid; llwybrau diogel i'r ysgol, a chamddefnyddio cyffuriau;

  • Nod 7: Plant a Phobl Ifanc ddim dan anfantais oherwydd tlodi.

  • Rhan 4: Gosod Blaenoriaethau a Gwerthuso sy'n nodi ar gyfer ymgynghori dull cenedlaethol drafft o weithredu i ddatblygu polisi, gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc, a gwerthuso'r gwahaniaeth a wnaed i'w bywydau. Fe gynigir strwythur o amcanion, targedau a dangosyddion sy'n cydweddu â saith nod craidd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Cynulliad. Y mae'n darparu sail ar gyfer strategaeth werthuso i farnu effeithiolrwydd y Fframweithiau a ffordd i bartneriaethau a'r Cynulliad weithio gyda'i gilydd. Fe gyflwynir Tablau yn y ddogfen sy'n nodi Deilliannau, Dangosyddion a Dull Gwirio ar gyfer pob un o'r saith nod craidd.

    Fe ddylir anfon ymatebion erbyn Dydd Gwener, 7 Mai 2004 at:

    David Middleton
    Tîm Fframwaith Plant
    Llywodraeth Cynulliad Cymru
    Parc Cathays
    Caerdydd CF10 3NQ
    E-bost: david.middleton@wales.gsi.gov.uk
    Dolenni Cysylltiol
    Children and Young People: Rights to Action
    Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
    Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313