Fe lansiwyd ‘Sdim Curo Plant!/Children are Unbeatable! Cymru ('SCP!/CAU! Cymru) ym mis Medi, 2000 i gydgysylltu ac i hyrwyddo’r ymgyrch yng Nghymru. Y mae gan y Grwp Strategaeth gynrychiolwyr o fudiadau Plant yng Nghymru, Achub y Plant, Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Action for Children – Gweithredu dros Blant,, Barnardo's, Cymdeithas Genedlaethol y Gwarchodwyr Plant, y Sefydliad Cenedlaethol dros y Teulu a Magu Plant, a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Cliciwch ar y ddolen gyswllt ar yr ochr dde i ddysgu mwy am yr ymgyrch drwy’r Deyrnas Gyfunol gyfan.
Amcanion y Gynghrair yw:
O ganlyniad i’r ymgyrchu gan ‘Sdim Curo Plant/Children are Unbeatable!, y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo yn gadarn i gynnal Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ac i gefnogi amcanion yr ymgyrch.
Mewn dadl mewn cyfarfod llawn ar y 14eg o Ionawr, 2004 ynglyn â’r Papur Gwyrdd, "Mae Pob Plentyn yn Bwysig", fe bleidleisiodd aelodau Cynulliad Cymru o blaid gwahardd taro plant o 41 o bleidleisiau i 9. Yr oedd y cynnig a dderbyniwyd yn:
"edifar bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau i gynnal yr amddiffyniad o gosbi rhesymol ac nad ydyw wedi cymeryd unrhyw gam sylweddol tuag at wahardd cosbi plant yn gorfforol yn y teulu."
Yn 2004, fe wnaeth cefnogwyr Seneddol ‘Sdim Curo Plant! geisio â chyflwyno cymal newydd i roi amddiffyniad cyfartal i blant yn y Mesur Plant. Fe fethodd yr ymdrechion ac fe gefnogodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol gymal newydd a ddaeth yn Adran 58 o Ddeddf Plant 2004. Y mae hwn yn caniatáu 'ymosodiad cyffredin' ar blant i’w gyfiawnhau fel 'cosb resymol'.
Os oes gan eich mudiad ddiddordeb mewn ymuno â’r ymgyrch, cysylltwch, os gwelwch yn dda,
â Lynne Hill, Ffôn: 029 2034 2434neu cliciwch ar y ffurflen ymuno ar y wefan hon.
Os ydych yn pryderu am blentyn, ffoniwch y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, Llinell Gymorth Amddiffyn Plant: 0808 100 2524.