Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
    Rhwydwaith Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant
    Cynrychiolaeth i Hawliau Plant
    » Hyfforddiant gyda Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Llythrennedd Emosiynol
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Gwaith Rhyngwladol
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
  • Ymchwil
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Hawliau Plant »Hyfforddiant gyda Hawliau Plant
Hyfforddiant gyda Hawliau Plant

Cyflwyniad i Hawliau Plant

Nod y cwrs cyflwyniadol hwn yw datblygu dealltwriaeth ymarferwyr o’r sylfaen gwybodaeth sy’n datblygu sy’n bodoli ar hawliau plant. Mae wedi ei anelu at ymarferwyr a rheolwyr sy’n dymuno diweddaru eu gwybodaeth o’r agenda seiliedig ar ‘hawliau’ sy’n datblygu yng Nghymru ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gymharol newydd i’r maes hwn o astudiaeth. Bydd y rhaglen yn anelu i ddatblygu dealltwriaeth cyfranogwyr o’r fframwaith polisi sy’n bodoli yng Nghymru a hefyd rôl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Bydd hefyd yn archwilio sut y datblygir y dynesiad hwn sy’n seiliedig ar ‘hawliau’ hwn mewn gwahanol osodiadau ac ar gyfer gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Datblygwyd y rhaglen hon ar gyfer ymarferwyr yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn amrediad o wasanaethau a sectorau. Hyd yma fe’i cyflwynwyd i weithwyr proffesiynol yn gweithio o fewn y sector statudol, gwirfoddol, iechyd ac addysg yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, uwch ymarferwyr, gofalwyr maeth, gweithwyr gofal preswyl, gweithwyr lles addysg, ymwelwyr iechyd, gweithwyr troseddu ieuenctid, swyddogion heddlu/tân gyda chyfrifoldebau amddiffyn plant a llawer arall.

Medrir teilwrio’r rhaglen hyblyg hon i gynulleidfa aml-asiantaeth yn ogystal ag i asiantaeth benodol e.e. gweithwyr gofal preswyl yn unig, gofalwyr maeth yn unig. Cafodd hefyd ei addasu ar gyfer cynulleidfa aml-asiantaeth sy’n gweithio gyda grwp oedran neilltuol neu grwpiau penodol o blant a phobl ifanc e.e. plant sy’n derbyn gofal, plant anabl ac ati.

Nod

  • Mae’r cwrs yn anelu i ddatblygu dealltwriaeth cyfranogwyr o ddeall rôl ‘hawliau plant’ a sut y medrir ei ymgorffori gan ymarferwyr yn eu harfer dydd i ddydd.
  • Caiff y cwrs ei seilio ar ddatblygiadau polisi allweddol, a fydd yn cynnwys cyfeiriad at y Ddeddf Plant, Deddf Hawliau Dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plant a fframweithiau ac offerynnau polisi eraill.
  • Bydd y cwrs yn archwilio’r tebygrwydd a’r gwahaniaeth rhwng ysgogwyr polisi wrth gefnogi ein dealltwriaeth o ddamcaniaeth ac arfer hawliau plant.
  • Bydd y cwrs yn anelu i ddefnyddio’r fframwaith uchod a’i gysylltu gydag arferion ymarfer presennol a dilemau ymarferwyr.
  • Caiff rôl gwerthoedd ac agweddau personol yn ein dynesiad at hawliau plant eu trafod a’u hymchwilio.
  • Bydd y cwrs hefyd yn rhoi sylw neilltuol i’r drafodaeth o amgylch Cyfranogiad. Bydd hyn yn cynnwys gorolwg o’r agenda cyfranogiad ac ymchwilio ffyrdd y gall pobl ifanc gael eu hymrwymo’n effeithlon drwy dechnegau ymgynghori a dulliau ymarfer cynhwysol.

Dulliau gwaith y cwrs

Bydd y cwrs yn anelu i ddefnyddio amrediad o ddulliau cyfranogol i ymrwymo gweithwyr proffesiynol.

Bydd pawb sy’n cymryd rhan ar y cwrs yn derbyn pecyn gwybodaeth helaeth, y medrir ei ddefnyddio i gefnogi eu dysgu pan fyddant yn ôl yn y gweithle.

Nodyn: Cafodd rhaglen y cwrs ei ymestyn yn flaenorol i ddigwyddiad hyfforddi 2-ddydd os dymunir. Gofynnwch am fanylion am gostau a chynnwys.

Y mae manylion am gyrsiau a drefnwyd ymlaen llaw sydd ar y gweill ar gael yn yr Adran Ddigwyddiadau neu Ffoniwch 029 2034 2434 am fwy o wybodaeth.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313