Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Ein Gwaith
    Aelodaeth
    Ein Cyflawniadau
    Cynrychiolaeth
    Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth
    Gwasanaethau Gwybodaeth
    » Fforymau Plant yng Nghymru
    Ymgyrchoedd
    Cyfleusterau Cynadleddau a Chyfarfodydd

Yr ydych yn : Ein Gwaith »Fforymau Plant yng Nghymru
Fforymau Plant yng Nghymru

Y mae Plant yng Nghymru yn cydlynu amryw o fforymau a rhwydweithiau ledled Cymru. Y mae’r fforymau a’r rhwydweithiau hyn yn rhoi cyfle i aelodau ddod ynghyd i gyfnewid gwybodaeth, rhannu ymarfer da, a rhwydweithio gydag eraill yn eu maes. Y mae aelodau fforymau hefyd yn gallu codi materion sy’n peri pryder yn gysylltiedig ag ystod o feysydd polisi y gall Plant yng Nghymru eu sianelu drwodd i lunwyr polisi.

Y mae’n Fforymau cyfredol yn cynnwys:

Cyfnewid Gofalu Am Iechyd
Y mae hwn yn grŵp amlasiantaethol sydd â’r nod o gynorthwyo i arwain polisi ledled Cymru i hybu iechyd plant sy’n derbyn gofal. Fe fydd Plant yng Nghymru yn parhau i gynnal y grŵp hwn er bod y prosiect wedi dirwyn i ben.

Fforwm ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl
Dyma grwp amlasiantaethol sy’n cyfarfod i rannu gwybodaeth ac ymarfer da, i gefnogi, i ysgogi datblygiad ac i lobïo dros faterion yn gysylltiedig â phlant a phobl ifanc anabl yng Nghymru.

Fforwm Magu Plant
Nod y fforwm hwn yw bod yn llais cenedlaethol dros rieni yng Nghymru, gan eu cefnogi hwynt yn eu rôl yn magu plant, rhannu gwybodaeth, rhoi ymchwil ar gael a chysylltu polisi ar bob lefel.

Fforwm Tadolaeth Cymru
Y mae’r fforwm hwn yn agored i bawb sydd naill ai’n gweithio ar hyn o bryd gyda thadau neu sy’n ystyried gweithio gyda thadau.

Grŵp Cymorth Sefydliadau Gwirfoddol Gogledd Cymru
Y mae’r grŵp hwn yn cyfarfod yn chwarterol ac y mae’n cynnwys unigolion a gyflogir gan sefydliadau gwirfoddol sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Fe ddaw’r grŵp ynghyd er mwyn nodi, rhannu a hyrwyddo arferion da a darparu cydgefnogaeth. 

Grwp Cynghori ar Flynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Y mae’r grŵp hwn yn canolbwyntio’n benodol ar anghenion plant o dan wyth oed a’u teuluoedd, ac y mae’n gweithio gydag ystod eang o sefydliadau o bob sector. Nod y grŵp yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o anghenion a hawliau holl blant ieuainc a’u teuluoedd ac i ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus a dod â newid.

Grwp Darparwyr Eiriolaeth dros Blant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan
Y mae’r grwp hwn yn hyrwyddo gwaith mewn partneriaeth a strategaethau datblygiadol rhwng sefydliadau, y mae’n hwyluso datrys problemau ac yn hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gyffredinol.

Canolfannau Plant Integredig
Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig – y mae’r rhwydwaith hwn yn cael ei hwyluso gan Plant yng Nghymru i ddarparu man cyswllt ar gyfer Canolfannau Plant Integredig yng Nghymru. Y mae’n gweithio i gynhyrchu amcanion cyffredin ar gyfer Cymru gyfan a datblygu fframwaith ar gyfer cadw golwg a gwerthuso i sicrhau safonau o ansawdd.

Rhwydwaith Cychwyn Cadarn
Y mae Plant yng Nghymru yn cefnogi Rhwydwaith Cychwyn Cadarn yng Nghymru ac y maent wedi hwyluso cyfarfodydd rheolaidd o gydlynwyr Cychwyn Cadarn.

Rhwydwaith Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant
Y mae’r grwp Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant yn cynnal cyfarfodydd chwarterol yng Ngogledd a De Cymru ar gyfer y sawl sy’n gysylltiedig ag eiriolaeth, ymgynghori a chyfranogi gyda phlant.

Rhwydwaith Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (CYPPiC) 
Y mae’r rhwydwaith hwn wedi’i ddatblygu gyda Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS). Y mae’n galluogi cynrychiolwyr o’r Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol i gael y cyfle i wella gwybodaeth, cynnig cydgefnogaeth a dealltwriaeth a thrafod materion er mwyn gwella’u gwaith o fewn Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc.

Rhwydwaith Dynion mewn Gofal Plant (Cymru)
Y mae’r rhwydwaith yn bartneriaeth rhwng Plant yng Nghymru, yr Adran Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe a Choleg y Drindod Caerfyrddin i annog mwy o ddynion i’r gweithlu sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.   

Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru (PWNW) yw cefnogi gweithwyr a sefydliadau gyda threfnu gweithgareddau cyfranogol a gwneud cyfranogi ar raddfa eang yn wirionedd.

Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc
Y mae’r rhwydwaith hwn yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn, ac y mae’n agored i bob gweithiwr gofalwyr ieuainc.

Rhwydwaith Pobl Ifanc Anabl
Nod y prosiect yw rhoi cyfleoedd i bobl anabl ifanc ledled Cymru i:gyfarfod a chael hwyl, deall eu hawliau, codi materion sy’n peri pryder iddynt yn eu bywydau bob dydd , cael llais gyda phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwynt a’u cyfoedion, datblygu’u gallu i ddod yn asiantau effeithiol yn y broses o lunio penderfyniadau

Rhwydwaith Ymchwil Plant a Phobl Ifanc Cymru
Annog a datblygu holl agweddau ymchwil er budd plant a phobl ifanc yng Nghymru

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313