Y mae Rhwydwaith Polisi Plant y 4 Cenedl yn bartneriaeth rhwng Biwro Cenedlaethol y Plant, Plant yng Ngogledd Iwerddon, Plant yn yr Alban a Plant yng Nghymru.
Yn 2001, fe wnaeth y partneriaid ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth polisi ar gyfer y sawl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Diben y gwasanaeth oedd dod â gwybodaeth ynghyd oddi wrth y pedair cenedl mewn un man, i alluogi ymarferwyr ddeall polisi cymharol a nodi arferion gorau. Fe gafodd y gwaith hwn gymorth gan y Gronfa Gymunedol.
Fel o Fedi 2005, fe gafodd gwefan Polisi Plant y 4 Cenedl ei datganoli i bedair gwefan gysylltiedig a weithredir gan bob un o’r partneriaid. O bob un gwefan, fe all defnyddwyr ganfod yr wybodaeth genedlaethol y mae arnynt ei hangen, yn ogystal â chyrchu gwybodaeth gymharol oddi wrth yr awdurdodaethau eraill drwy ddolenni cyswllt rhwng y gwefannau. Y mae newyddion ledled y pedair cenedl a bwletin e-bost y Deyrnas Gyfunol yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi plant o bob cwr o gyfundrefn wleidyddol y Deyrnas Gyfunol.