Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • WorldForum 2008
  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Diogelwch Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
    Rhwydwaith Dechrau’n Deg
    Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig Cymru-gyfan
    » Rhwydwaith Cychwyn Cadarn
    Grwp Cynghori ar Flynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Llythrennedd Emosiynol
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Prosiect Llwybrau Bywyd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Ymchwil
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Blynyddoedd Cynnar »Rhwydwaith Cychwyn Cadarn
Rhwydwaith Cychwyn Cadarn
Cychwyn Cadarn Cymru baby

Ym mis Ebril, 2003, yn dilyn adolygiad o’r rhaglenni cyllido presennol a phroses ymgynghori, fe gyfunwyd Cychwyn Cadarn yng Nghymru gyda’r Gronfa Partneriaeth Plant ac Ieuenctid a’r Strategaeth Gofal Plant i ffurfio cronfa newydd unedig Cymorth – Cronfa Cymorth Plant ac Ieuenctid.

Fe weinyddir Cymorth drwy Bartneriaethau lleol Plant a Phobl Ifanc o fewn pob Awdurdod Lleol. Y mae’n anelu at ddarparu rhwydwaith o gymorth a dargedir ar gyfer plant a phobl ifanc o fewn fframwaith o ddarpariaeth hollgyffredinol er mwyn gwella siawns mewn bywyd plant a phobl ifanc sy’n dod o deuluoedd dan anfantais. I gael golwg ar fwy o wybodaeth am Cychwyn Cadarn, ewch at eu gwefan.

Cymorth ar Waith - Medi 2004,
Cynhadledd "Cymorth ar Waith" ym mis Medi 2004 mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ei nod oedd hwyluso rhwydweithio a rhannu arfer gorau ymysg y rhai’n ymwneud â’r Partneriaethau Fframwaith ledled Cymru a sefydliadau gwirfoddol yn derbyn cyllid Cymorth. Roedd themâu’r gweithdai yn cynnwys enghreifftiau arfer gorau o amrediad amrywiol o brosiectau a gyllidir gan Cymorth ledled Cymru gyda rhai cyfraniadau gan ddefnyddwyr
gwasanaeth. Roedd y pynciau’n cynnwys: Chwarae, Anabledd, Magu Plant, Gwasanaethau mewn Ardaloedd Gwledig, Materion Cyffuriau ac Alcohol, Troseddu Ieuenctid, Addysg Cymheiriaid, Tadau, Grwpiau Du a Lleiafrif Ethnig, Cychwyn Cadarn, Cefnogi Pobl Ifanc yn eu Harddegau, Monitro a Gwerthuso.

Gwerthusiad Cenedlaethol Cychwyn Cadarn a Mwy: Adroddiad Terfynol, Mai 2005 – Nod y gwerthusiad oedd canfod yr hyn y gellid ei ddysgu oddi wrth raglenni Cychwyn Cadarn a Mwy y gellid ei ledaenu i raglenni eraill a gwasanaethau perthnasol sy’n bartneriaid.
Rhwydwaith Cychwyn Cadarn

Y mae Plant yng Nghymru yn cefnogi Rhwydwaith Cychwyn Cadarn yng Nghymru ac y mae wedi hwyluso cyfarfodydd rheolaidd gan gydgysylltwyr Cychwyn Cadarn, a gynhelid yng nghanolbarth Cymru. Y mae pynciau a drafodid yn cynnwys datblygu Canolfannau Plant Integredig, cyllid Cymorth a’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol. Fe fydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn ystyried datblygiad Cyfnodolyn i Cychwyn Cadarn i amlygu ymarfer da; holiadur i fapio datblygiadau Cychwyn Cadarn ledled Cymru; ffocws ar waith gyda thadau o fewn rhaglenni Cychwyn Cadarn. Os hoffech anfon erthygl i’r cyfnodolyn, a fyddech cystal ag anfon copi ymlaen at Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru. 
Fe ellir hefyd cael copïau o’r holiadur oddi wrth Plant yng Nghymru.

Dolenni Cysylltiol
Cychwyn Cadarn
Cychwyn Cadarn yw'r rhaglen gan y llywodraeth i gyflawni'r dechreuad gorau mewn bywyd i bob plentyn.
Adnoddau Cysylltiol
:Adroddiad Cynhadledd Cymorth ar Waith (Medi 2004)
:Sure Start Network Meeting minutes Dec 06 (rtf 22k)
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313