Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Disabled Children Matter Wales
  • Fforwm Cymru Gyfan o eiddo Plant yng Nghymru ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl.
  • Cyfarfodydd Is-Fforwm Anabledd
  • Grwp Polisi ar Faterion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Anabl
  • Rhwydweithiau ar gyfer Pobl Anabl Ifanc
    » Hawliau ar Waith
    Rhwydwaith Cymru o Bobl Anabl Ifanc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Anabledd »Rhwydweithiau ar gyfer Pobl Anabl Ifanc »Hawliau ar Waith
Hawliau ar Waith
Yr oedd Plant yng Nghymru yn bartner o bwys gyda’r gwaith o gynllunio a chyflawni Hawliau ar Waith 2003 – Cyngres Ryngwladol 1af Pobl Anabl Ifanc a gynhaliwyd yn Abertawe ym mis Gorffennaf, 2003. Yr oedd partneriaid eraill yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, y Comisiwn Hawliau Anabledd, a’r Cyngor Prydeinig.

Fe wnaeth y digwyddiad ddod â 95 o bobl anabl ifanc ynghyd fel cynrychiolwyr o fwy na 35 o wahanol wledydd o amgylch y byd i ddysgu am eu hawliau fel a’u hymgorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’r Model Cymdeithasol o Anabledd.  Fe wnaeth y cynrychiolwyr drafod materion sy’n berthnasol i’w bywydau fel pobl anabl ifanc gan gyflwyno’r pryderon hyn gerbron panel o lunwyr polisi rhyngwladol.  Fe wnaethant hefyd lunio siartr o gamau gweithredu i’w datblygu ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Ers hynny, y mae Plant yng Nghymru wedi parhau i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol i sicrhau bod pobl anabl ifanc yn cael eu cynrychioli’n llawn wrth ddrafftio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl.  Y mae Plant yng Nghymru wedi cyfarfod â Chyfarwyddwr y Fforwm Anabledd Ewropeaidd (FfAE) i ddatblygu cysylltiadau yn Ewrop ac i drafod sut y gallai Hawliau ar Waith a FfAE weithio gyda’i gilydd.   

Ym mis Mawrth, 2004, fe wnaeth Plant yng Nghymru gyflwyno cynnig i’r Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA) i ariannu’r rhwydwaith Hawliau ar Waith am y ddwy flynedd nesaf.  Fe wahoddwyd aelodau ‘Hawliau ar Waith’ i fynychu Cyfarfod Comisiynwyr y CHA i roi cyflwyniad o’u cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith.  Fe gytunodd y CHA i gyllido’r rhwydwaith sydd i’w gynnal yn gychwynnol gan Plant yng Nghymru.

Fe wnaeth Plant yng Nghymru gydlynu cyfarfod rhwng pobl anabl ifanc o Gymru a’r Comisiynydd Plant, Peter Clark.  Y pynciau allweddol a drafodwyd oedd mynediad at addysg bellach a chefnogaeth mewn hyfforddiant yn y gweithle.  Fe ddaw hyn yn ddigwyddiad blynyddol ac fe fydd yn gam pwysig arall i gynnal momentwm gwaith Hawliau ar Waith.  

Fe gefnogwyd grwp o bobl anabl ifanc gyda chymeryd rhan yn y digwyddiad ‘Talk Back’ yng nghynhadledd y Blaid Lafur ym mis Mawrth, 2004, ble y gofynnwyd cwestiynau i Jane Hutt a Jane Davidson. Fe drefnwyd y digwyddiad ar y cyd gan grwp Swyddogion Polisi NGO.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313