Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
    Much Work Still to be Done
    » Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Llythrennedd Emosiynol
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Gwaith Rhyngwladol
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
  • Ymchwil
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Tlodi Plant »Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru

ECPNC LOGO

2020

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r Rhwydwaith, cysylltwch ag:

Anita Myfanwy
24-26 Stryd Fawr
Caernarfon
LL55 1RH

Ffôn: 01286 677570

E-bost: Anita.Myfanwy@childreninwales.org.uk

Tlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol yn y Gymru Wledig

Mae'r adroddiad newydd yma yn tynnu sylw at y gwahanol ffyrdd y mae plant a phobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi incwm isel, neu gartrefi sy’n derbyn budd-daliadau yng nghefn gwlad Cymru yn cael eu heithrio o wasanaethau sydd ar gael i’w cyfoedion mewn ardaloedd trefol.

Y Deyrnas Gyfunol yw’r pedwerydd economi mwyaf yn y byd ond ar y llaw arall y mae ganddi un o’r lefelau uchaf o dlodi ymysg plant o’r holl wledydd diwydiannol. Fe ddengys ffigurau diweddar fod 32 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.

Y mae’r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar dlodi ymysg plant ac y mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru, ChildLine Cymru, Child Poverty Action Group, Achub y Plant Cymru, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Action for Children, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, Fairbridge Cymru, Cyngor Ar Bopeth Cymru, Ymddiriedolaeth Frank Buttle, Shelter Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru. Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru

Y mae gennym hefyd nifer cynyddol o Aelodau Cefnogol sy’n cefnogi’n gweledigaeth na ddylai’r un plentyn yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi erbyn 2020. Fe ddaw’r aelodau hyn o drawstoriad eang o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Fe sefydlwyd y Rhwydwaith ym mis Tachwedd, 2001 ac y mae’n gweithio i sicrhau:

  • Mwy o ddealltwriaeth gyhoeddus a phroffesiynol o dlodi ymysg plant yng Nghymru;
  • Cefnogaeth gyhoeddus a phroffesiynol dros fesurau i ddileu tlodi ymysg plant;
  • Cael polisïau yn eu lle ar bob haen o lywodraeth sy’n cyfrannu i ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru.

Wrth ymuno â'r Rhwydwaith byddwch yn derbyn e-bwletin misol am ddim.

Ein llwyddiannau

  • Tlodi Plant seminarau, Monmouth Priory
  • Wedi lobïo Llywodraeth Cynulliad Cymru yn llwyddiannus am strategaeth tlodi plant yng Nghymru;
  • Wedi lobïo dros a chymeryd rhan yn y Grwp Gorchwyl Tlodi Plant;
  • Wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ynglyn â thlodi ymysg plant;
  • Ymatebion i ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol
  • Papur cyfarwyddo ar dlodi ymysg plant a chyfarwyddiadau ar adroddiad y Grwp Gorchwyl Tlodi Plant ar gyfer Pwyllgorau pwnc y Cynulliad.
  • Mynd i'r Afael a Thlodi Ymysg Plant yng Nghymru - Canllaw Ymarfer da ar Gyfer Ysgolion
  • Papur briffio ar Gost Addysg

Newyddion Diweddaraf

  • Siarter Tlodi Tanwydd - Mae clymblaid o sefydliadau, yn cynnwys Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, wedi lansio siarter tanwydd sydd yn galw am gael gwared ar dlodi tanwydd yng Nghymru.
  • Cyllideb Llywodraeth y DU 2009: Papur Briffio - Mae'r papur briffio yma yn galw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi o leia £3 biliwn i fewn i fudd-daliadau a chredydau treth er mwyn cyrraedd targed y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru o haneru tlodi plant yn erbyn 2010.
  • Deddf Tlodi Ymysg Plant newydd i Gymru - Y mae’r Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) arfaethedig, sydd â’r nod o fynd i’r afael â thlodi ymysg plant a chryfhau cymorth i deuluoedd mewn angen, i’w osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe fydd y Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu Strategaeth Tlodi Ymysg Plant newydd i Gymru, y byddai’n rhaid ei hadolygu bob tair blynedd. Dilynwch datblygiad y Mesur yma.
  • Cost Addysg: Adnewyddu'r Galawd - Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi Plant, fe adnewyddodd cynghrair Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru ei alwad y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnal astudiaeth ar ddichonoldeb cyflwyno gwasanaeth prydau ysgol am ddim i bawb ar gyfer pob disgybl ysgol ym mhob rhan o Gymru.
  • Y mae gwefan newydd a ddyluniwyd i gynorthwyo cynghorau a’u partneriaid i ddatblygu ymatebion lleol i ostwng tlodi ymysg plant wedi’i lansio: www.childpovertysolutions.org.uk
  • Ymchwil Diweddaraf

    Newyddion
    Click here for the latest developments on child poverty in Wales.
    Ymunwch â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Cyhoeddiadau yn ymwneud â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
    Wyneb tlodi yng Nghymru
    Tlodi - Y Ffeithiau
    Tlodi - Cwestiynau ac Atebion
    Mentrau/polisïau'r Llywodraeth
    Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i liniaru tlodi
    Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
    Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313