Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Digwyddiadau

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithio gyda Rhieni - Digwyddiad Ymgynghori
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithio gyda Rhieni - Digwyddiad Ymgynghori

Lleoliad: Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau, Llandrindod
Dyddiad: 20 Medi 2010
Trefnwyd Gan: Dysgu Gydol Oes yn y DU a Plant yng Nghymru

Mae Dysgu Gydol Oes yn y DU ar hyn o bryd yn adolygu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithio gyda Rhieni. Mae Dysgol Gydol Oes yn y DU a Plant yng Nghymru yn cynnal digwyddiad ymgynghori a byddem yn falch iawn i weld eich sefydliad yn cael ei gynrychioli ar y diwrnod.

Cefndir

Dysgu Gydol Oes yn y DU yw cyngor sgiliau sector y Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer y sector dysgu gydol oes. Rydym yn gweithio i greu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) newydd a diweddaru rhai presennol, trwy drafodaeth â chyflogwyr a rhanddeiliaid o sectorau perthnasol ac ar draws y pedair gwlad. 

Mae Dysgu Gydol Oes yn y DU ar hyn o bryd yn adolygu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithio gyda Rhieni. Fe gymeradwywyd y safonau ym mis Ebrill 2005, a’u newid fesul cam yn ddiweddar i ddiddymu cysylltiadau lefel. 

Datblygodd y sector gweithio gyda rhieni fap swyddogaethol newydd ym Mawrth 2010 i adlewyrchu’r newidiadau yn y gweithlu ers 2005. Roedd y rhai a gymrodd ran yn frwdfrydig i fod yn gysylltiedig â’r datblygiad ac fe rannwyd y mapio swyddogaethol ledled y sector yn cynnwys yn y Gynhadledd Rhianta DU a digwyddiadau eraill.  Rydym bellach yn gweithio gyda grŵp o ymarferwyr profiadol i ystyried y manylion ac i ddrafftio cyfres ddiwygiedig o NOS.

Cymryd rhan

Testun dewis 1

Mae’n bwysig ein bod yn cydweithio’n agos â’r sector i sicrhau bod y safonau terfynol yn bodloni anghenion y rhai sy’n eu defnyddio a byddem yn eich annog i gymryd rhan yn yr adolygiad.

Bydd yr ymgynghoriad yn agored o 27 Awst  ac yn cau ar y 24 Medi.

Mae Dysgol Gydol Oes yn y DU a Plant yng Nghymru yn cynnal digwyddiad ymgynghori a byddem yn falch iawn i weld eich sefydliad yn cael ei gynrychioli ar y diwrnod.  I archebu lle, lawrlwythwch ffurflen archebu – a fyddech cystal â’i llenwi a’i dychwelyd at emmajenkins@lluk.org neu markisherwood@lluk.org.         

Amser: Cofrestru am 10am, cychwyn am 10.30am ac yn cloi am 1pm

 

Cyfleoedd amgen:

Os na allwch fynychu, gallwch ddarparu adborth electronig yn ystod y cyfnod adolygiad cyhoeddus – bydd y safonau drafft a holiadur ar gael i chi lawrlwytho o’n gwefan.

Os oes gennych grŵp yn eich sefydliad neu rwydwaith sydd â diddordeb yn yr adolygiad, gallwch ‘gynnal eich digwyddiad eich hun’.  Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i chi ganolbwyntio ar unrhyw feysydd yn y safonau sy’n allweddol bwysig i’ch gweithgareddau chi, ac yn eich galluogi i benderfynu ar ba bryd ac am ba hyd fydd eich grŵp neu grwpiau’n trafod y safonau drafft.  Byddwn yn cyflenwi deunyddiau a ffurflenni adborth i’ch cefnogi; yr oll a ofynnwn yw eich bod yn anfon eich adborth atom erbyn dyddiad cau’r cyfnod ymgynghori. 

Ewch i’n gwefan yn www.lluk.org/work-with-parents-consultation.htm am ragor o fanylion.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Dysgu Gydol Oes yn y DU ar ein gwefan: www.lluk.org/national-occupational-standards.htm

 

Archebwch eich lle
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithio gyda Rhieni - Digwyddiad Ymgynghori

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence