Ymlyniad ac effaith trawma mewn plentyndod cynnar
Mae ansawdd y berthynas rhwng plant bach a phrif roddwyr gofal yn hanfodol i ddatblygiad plant yn oedolion. Mae amharu ar batrymau perthnasoedd a phatrymau datblygiadol cynnar, beth bynnag yr achos - amhariad cyn-enedigol, genedigaeth gynamserol, salwch, profedigaeth, camddefnydd sylweddau gan rieni neu fynd i mewn i’r system ofal - yn llawer rhy gyffredin. Rhydd y gynhadledd hon gyfle i glywed arbenigwr rhyngwladol ar drawma ymlyniad ac ystyried sut mae’r sawl sy’n ymwneud â chynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc yn gallu ymgorffori’r wybodaeth hon, datblygu adnoddau presennol i atgyweirio’r difrod a newid bywydau plant a phobl ifanc a theuluoedd. Bydd y diwrnod yn edrych ar arfer da ac ymchwil ac yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr ystyried eu harfer eu hun a rhannu eu profiadau. Cyflawnir hyn drwy gyflwyniadau ffurfiol a gweithdai.
Siaradwyr sydd wedi Cadarnhau:
Wedi eu gwahodd:
Yn ystod y diwrnod, bydd gan gynrychiolwyr y cyfle i:
Pwy ddylai fynychu?
Mae bore’r gynhadledd wedi ei anelu at y sawl sydd mewn rolau strategol wrth gynllunio gwasanaethau plant yn ogystal ag ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant mewn amrywiaeth o leoliadau. Deall yr angen i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu dylunio i weithio’n dda gyda phlant y mae eu hymlyniad wedi ei darfu; mae comisiynwyr a chynllunwyr gwasanaethau sy’n gallu gwneud y defnydd gorau ar adnoddau prin yn hanfodol yn yr adegau hyn o gyfyngiadau ariannol llym.
Mae prynhawn y gynhadledd yn canolbwyntio ar arfer ac yn ogystal â gweithdai a gynhelir gan Dr Dan Hughes sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae amrediad o weithdai cyffrous ac addysgiadol sy’n ymdrin â phynciau gan gynnwys Awtistiaeth ac Ymlyniad; Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd; Addysg ac ymlyniad; Gweithrediad teulu/ymlyniad rhieni, a Rhianta Therapiwtig.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Sally Jones: sally.jones@wlga.gov.uk / 029 2046 8513