Ni yw elusen annibynnol plant y byd. Mae’n warth fod miliynau o blant yn dal heb ofal iechyd priodol, bwyd, addysg a diogelwch. Rydym yn gweithio hyd orau ein gallu i sicrhau bod pob plentyn cael ei hawliau ac rydym yn benderfynol i wneud newidiadau pellach, cyflymach. Faint o newidiadau? Pa mor gyflym? Chi fydd yn penderfynu hynny.
Yn y rôl strategol allweddol hon, byddwch yn arwain, ysbrydoli ac ysgogi ein tîm polisi ac eirioli hynod broffesiynol, ac yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni ein polisi’n llwyddiannus yng Nghymru er mwyn rhoi diwedd ar dlodi plant yn y DU. Byddwch yn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o’n hadnoddau ac yn cynyddu ein heffaith. Byddwch yn uwch reolwr/waig profiadol gyda chefndir mewn sector perthnasol a gwybodaeth fanwl o faterion polisi cyhoeddus yn gysylltiedig â phlant a phobl ifanc, yn arbennig yng nghyd-destun llywodraeth ddatganoledig Cymru.
Byddwch yn gallu lobïo a rhwydweithio’n effeithiol, byddwch wedi profi eich bod yn gallu creu partneriaethau cadarn a pharhaus, a chyfathrebu gydag amryw o wahanol gynulleidfaoedd.
Cyf: 5592.
Dyddiad cau: 7 Ebrill 2010. Cyfweliadau: 23 Ebrill 2010.
Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais ar-lein, ewch at www.savethechildren.org.uk/jobs