Cwrs un-dydd a hwylusir gan Plant yng Nghymru
Mae’r cwrs hwn yn berthnasol i reolwyr ac ymarferwyr sydd eisiau dangos fod eu hymyriad wirioneddol wedi gwneud gwahaniaeth i’r bobl y maent yn eu cefnogi. Mae cyllidebau dan bwysau ac mae angen i bob sefydliad ystyried bod yn ddarbodus ac effeithiol, ond mae’n bwysig cadw ffocws ar effeithlonrwydd gwasanaethau. Bydd y cwrs yma’n edrych ar bwysigrwydd mesur y canlyniadau meddal a sicrhaodd eich ymyriad i’r bobl yr ydych yn gweithio gyda hwy.
Bydd y cwrs yn cynnwys:
Dealltwriaeth o ddiffiniadau monitro a gwerthuso
Sut i ddatblygu a gweithredu system fonitro effeithiol
Cyfle i ystyried pa ganlyniadau meddal sy’n berthnasol ar gyfer eich gosodiad
Dynodi pa ddangosyddion canlyniadau sydd angen i chi eu monitro
Ymchwilio amrywiaeth o ddulliau o fesur canlyniadau
Adolygu cynnydd i asesu’r pellter a deithiwyd
COST:
Aelodau £80
Heb fod yn aelodau £100
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a: bookings@childreninwales.org.uk