Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am benodi aelodau gwirfoddol i Gynghorau Iechyd Cymuned ledled Cymru (ac eithrio i’r Cynghorau Iechyd Cymuned ym Mhowys).
Corff gwarchod annibynnol y cyhoedd yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yw'r Cynghorau Iechyd Cymuned. Maent yn cynrychioli buddiannau'r cyhoedd ac yn chwarae rhan bwysig o ran dylanwadu ar y ffyrdd o gynllunio, cyflenwi a gwella gwasanaethau iechyd.
Gwirfoddolwyr yw Aelodau'r Cynghorau Iechyd Cymuned a'u swyddogaeth yw cadw eu llygaid a'u clustiau ar agor er budd cleifion a'r cyhoedd, gwrando ar eu pryderon a gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd i wella ansawdd gofal i gleifion.
Rydym yn chwilio am bobl o bob cefndir – y gofyniad pwysicaf yw bod gennych ddiddordeb gwirioneddol mewn gwella gwasanaethau iechyd i'ch cymuned. Byddai'r sgiliau canlynol yn ddefnyddiol: diddordeb mewn materion iechyd lleol ac ymwybyddiaeth ohonynt; y gallu i weithio mewn tîm â phobl o gefndiroedd gwahanol; a'r gallu i wrando ar eraill a chyfnewid barn.
Disgwylir i'r aelodau fod ar gael i weithio rhwng 3 a 5 diwrnod y mis.
Ni fydd yr aelodau yn cael eu talu ond bydd modd hawlio treuliau.
Mae'n bolisi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo cyfle cyfartal a'i ymgorffori ym mhob agwedd ar ei gwaith, gan gynnwys penodi i gyrff cyhoeddus. Rydym yn croesawu ac yn annog yn arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl.
I gael pecyn cais a rhagor o fanylion, cysylltwch â'r Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Ffôn: 029 2082 3799/5240, ffacs: 029 2082 6869 neu e-bost: publicappointments@wales.gsi.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 22 Chwefror 2010. Ni fyddwn yn ystyried ffurflenni cais a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw. Ar hyn y bryd y disgwyl yw cynnal cyfweliadau yn yr wythnos sy'n dechrau ar 15 Mawrth 2010 mewn lleoliadau ar draws Cymru.