Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Digwyddiadau

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Amddiffyn Plant ar y Rhyngrwyd
Amddiffyn Plant ar y Rhyngrwyd

Lleoliad: Bae Colwyn
Dyddiad: 10 Chwef 2010
Trefnwyd Gan: Heddlu Gogledd Cymru

Mae’r dechnoleg sydd ar gael ynghyd â’r modd y gellir ei defnyddio yn achos llawer o bryder i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Pa beryglon sy’n bodoli a pha gamau sydd ar gael i'w hatal rhag peryglu eu hunain?  Os nad ydych yn gyfarwydd â datblygiad y dechnoleg neu os nad ydych yn ymwybodol o faterion perthnasol i amddiffyn plant ar y rhyngrwyd, bydd y Seminar yn rhoi cyfle i chi wella eich gwybodaeth yn y maes hwn mewn modd proffesiynol.

Derbyniodd Uned Troseddau Uwch-dechnoleg Heddlu Gogledd Cymru gais gan weithwyr addysg proffesiynol ynghyd ag asiantaethau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddarparu hyfforddiant ar gyfer unigolion a all gael eu heffeithio gan faterion perthnasol i amddiffyn plant o safbwynt y rhyngrwyd a thechnoleg newydd.

Nod y cwrs yw gwella ymwybyddiaeth ynghylch y peryglon posibl sy’n deillio o ddefnyddio’r dechnoleg, ynghyd â chamau y gellir eu cymryd i reoli’r bygythiad.

Swyddogion Troseddau Uwch-dechnoleg presennol fydd yn cyflwyno’r cwrs. Maent wedi ymdrin â phob math o ddigwyddiad, yn cynnwys:

  • Lluniau o gam-drin plant
  • Bwlio ar y we
  • Llofruddiaeth
  • Ymchwiliadau troseddau casineb
  • Ymosodiadau rhywiol

Cynhelir y cwrs ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn, a bydd yn rhoi sylw i’r testunau isod:

  • Pwyntiau sylfaenol ynghylch cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd  
  • Defnyddiau anweddus ac sy’n dangos camdriniaeth     
  • Rhannu ffeiliau
  • Dulliau cyfathrebu  
  • Technoleg sy’n dod i’r amlwg
  • Rhwydweithiau cymdeithasol
  • Bwlio ar y we
  • Ymchwiliadau i’r rhyngrwyd
  • Cam-fanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein

Costau’r cwrs yw £90 + Treth Ar Werth, sy’n cynnwys cinio a lluniaeth ysgafn.

Mae gwybodaeth bellach ynghyd â ffurflenni cais ar gael trwy gysylltu â:

Uned Troseddau Uwch-dechnoleg Heddlu Gogledd Cymru

Ffôn: 01492 804901

E-bost: psdhtcu@nthwales.pnn.police.uk

Sylwer na fyddwn yn prosesu unrhyw geisiadau tan ar ôl 31 Ionawr 2010

Archebwch eich lle
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Amddiffyn Plant ar y Rhyngrwyd

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence