Fe’ch gwahoddir i fynychu’r digwyddiad uchod er mwyn rhannu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i Blant Anabl a'u teuluoedd gan wahanol fudiadau. Bydd Cynghorwyr o Ganolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru sy’n cyflwyno’r prosiect hefyd yn bresennol.
Isod ceir mwy o fanylion am gefndir y Prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Ym mis Mai 2009, cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons, gynllun peilot gwerth £500,000 dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn cynyddu incwm teuluoedd â phlant anabl. Mae Cyngor Ar Bopeth Cymru wedi cael ei benodi'n asiant darparu'r cynllun, a byddwn yn cyflwyno ymgyrch i gynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau fel rhan o’n cynllun presennol Cyngor Da: Iechyd Da, a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Y Cynllun yw prif argymhelliad y ‘Grŵp Gorchwyl Hawliau ar Waith i Blant a Phobl Ifanc Anabl’, a benodwyd gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ym mis Rhagfyr 2007.
Mae teuluoedd â phlant anabl yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi gan ei bod yn fwy costus magu plentyn anabl a chan fod eu hincwm yn is am eu bod yn deuluoedd un rhiant, neu oherwydd canlyniadau ariannol bod yn deulu dau riant lle mae un o’r rhieni wedi gorfod rhoi gorau i’w swydd.
Llenwch y ffurflen archebu sydd ynghlwm ar gyfer y digwyddiad rhwydweithio hwn, a’i dychwelyd erbyn 22 Ionawr 2010.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag Andrea Jones, Cydlynydd Prosiect, ar 01745 586409/e-bost: andrea.jones@citizensadvice.org.uk.