Bob blwyddyn yng Nghymru, y mae tua 15,000 o blant o dan 5 mlwydd oed yn mynychu Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys o ganlyniad i ddamwain gartref. Y mae'r damweiniau hyn yn aml yn arwain at anafiadau difrifol ac sy'n anablu, ac yn bwysig, y mae'r mwyafrif ohonynt yn rhai y mae modd eu hosgoi.
Y mae'r cwrs undydd hwn yn gwneud defnydd o ymchwil ac ymyriadau sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth i gynorthwyo ymarferwyr i ddeall y mater hwn ac i roi sylw iddo.
Ar ddiwedd y cwrs, fe fydd gan ymarferwyr y sgiliau a'r wybodaeth i adnabod pwy sydd fwyaf mewn perygl a pha ymyriadau sy'n effeithiol i ostwng damweiniau yn y cartref ymysg plant dan 5 oed.
E-bostiwch bookings@childreninwales.org.uk ar gyfer mwy o wybodaeth.