Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • »News
    Plant yng Nghymru yn y newyddion
    Press Releases

Yr ydych yn : News
Newyddion

Two boysY mae’r adran hon yn amlygu’r holl ddatblygiadau diweddaraf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru. Y mae hefyd yn darparu dolenni cyswllt i:

  • Datganiadau Plant yng Nghymru i’r wasg,
  • Plant yng Nghymru yn y newyddion
  • Taflenni newyddion Plant yng Nghymru.
  • Swyddi gweigion
  • Digwyddiadau yng Nghymru

Y mae rhagor o fanylion ynglyn â datblygiadau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac archif newyddion a mathau eraill o wybodaeth ar gael yn adran Polisi y wefan hon.

Tudalen 1|2|3|4|5|6
Newyddion Diweddaraf
Y mae llysoedd teulu i’w gwneud yn agored i fwy o graffu, 16/12/08 [C/Ll]
Y mae’r newid yn un rhan o becyn o fesurau newydd sydd â’r bwriad o wella didwylledd yn y gyfundrefn llysoedd teulu, a amlinellir yn y papur Family Justice in View, sydd wedi’i seilio ar ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2007.
Enw newydd i Rainer Crime Concern, 15/12/08 [C/Ll]
Y mae’r elusen ieuenctid Rainer Crime Concern wedi’i ail-lansio fel Catch22.
Adolygiad annibynnol i’r defnydd o ataliaeth mewn lleoliadau diogel i blant, 15/12/08 [C/Ll]
Y mae’r Adolygiad Annibynnol hwn, a gomisiynwyd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Ieuenctid, a’r Gweinidog dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, yn archwilio’r polisi a’r ymarfer yn ymwneud â’r defnydd o ataliaeth ledled sefydliadau troseddwyr ieuainc, canolfannau hyfforddi diogel a chartrefi plant diogel.
Y mae Prosiect Llwybrau Bywyd yn derbyn estyniad o 6 mis, 11/12/08 [C]
Ym mis Mawrth 2008, fe lansiodd Plant yng Nghymru brosiect peilot newydd. Yr oedd Llwybrau Bywyd eisoes yn brosiect llwyddiannus yn Lloegr, ac fe ddatblygwyd y peilot Cymreig i fod yn weithredol yn wreiddiol tan fis Rhagfyr, yn dibynnu ar ei lwyddiant. Y mae Plant yng Nghymru yn awr wedi derbyn cyllid i barhau â’r prosiect am 6 mis yn ychwanegol.
Y mae Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynglŷn â Phlant sy’n Agored i Niwed yn derbyn Cymeradwyaeth Frenhinol, 10/12/08 [C]
Y mae’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynglŷn â Phlant sy’n Agored i Niwed wedi derbyn Cymeradwyaeth Frenhinol, sy’n golygu y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awr gyflwyno Mesurau’r Cynulliad sy’n cwmpasu plant a phobl ifanc.
Mesur Trafnidiaeth Dysgwyr yn derbyn Cymeradwyaeth Brenhinol, 10/12/08 [C]
Mae cynlluniau i ehangu a gwella cludiant ar gyfer disgyblion a myfyrwyr ar draws Cymru, yn cynnwys cod Gymru gyfan ar ymddygiad, wedi cael Cymeradwyaeth Brenhinol.
Cadw Plant yn Ddiogel Rhag Niwed, 10/12/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae Plant yng Nghymru’n croesawu dau adroddiad, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd heddiw, sy’n amlygu’r golled enfawr i gymdeithas a achoswyd gan anafiadau yn ystod plentyndod.
Lansio Agenda Bolisi yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc anabl, 03/12/08 [C]
Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio’u hagenda bolisi gyntaf ar gyfer plant a phobl ifanc anabl yng Nghymru.
Cam-drin Domestig yng Nghymru, 03/12/08 [C]
Mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar gam-drim domestig yng Nghymru.
Effaith Araith y Frenhines yng Nghymru, 03/12/08, [W/E/S/NI]
Fe wnaed Araith y Frenhines, yn amlinellu’r mesurau ar gyfer sesiwn newydd y Senedd, ar y 3ydd o Ragfyr, 2008.
£1.5 miliwn er mwyn mynd i’r afael â cham-drin domestig, 25/11/08 [C]
Mae Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi pecyn ariannol gwerth mwy na £1.5 miliwn er mwyn cefnogi sefydliadau sy’n mynd i’r afael â cham-drin rhywiol a domestig.
Lansio Gwefan Draig Ffynci Bach, 24/11/08 [C]
Mae Draig Ffynci, cynulliad plant a phobl ifanc Cymru’n lansio gwefan newydd ar gyfer plant 6 - 11 oed. Bydd gwefan Draig Ffynci Bach yn cael ei lansio ar ddydd Llun 1af Rhagfyr 2008.
Adroddiad Rhag-gyllidebol: mesurau ar gyfer teuluoedd, 24/11/08 [C/Ll/GI/A]
Yn ei Adroddiad Rhag-gyllidebol, fe gyhoeddodd y Canghellor, Alistair Darling, amryw o fesurau i gynorthwyo teuluoedd ar incwm isel.
Oedi cyn cadarnhau siarter hawliau’r Cenhedloedd Unedig, 21/11/08 [W/E/NI/S]
Y mae Gweinidog Anableddau’r Deyrnas Unedig, Jonathan Shaw, wedi dweud y bydd y llywodraeth yn oedi cyn cadarnhau siarter hawliau anabledd y Cenhedloedd Unedig tan y flwyddyn nesaf.
Deddf Priodi dan Orfod (Amddiffyn Sifil) 2007, 20/11/08 [C/Ll/GI]
Y mae Deddf Priodi dan Orfod (Amddiffyn Sifil) 2007 i fod i ddod i rym ar y 25ain o Dachwedd, 2008.
Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc ar gyfer Cymru 2008, 20/11/08 [C]
Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi’u Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc cyntaf, sy’n tynnu ynghyd ddata ymchwil a data ystadegol ynglŷn â lles pobl ifanc 0-18 mlwydd oed yng Nghymru.
Gwefan gwybodaeth iechyd newydd ar gyfer pobl ifanc, 14/11/08 [C]
Y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi lansio gwefan iechyd ddwyieithog newydd sbon i ddarparu gwybodaeth berthnasol, hollol gyfoes ac o ansawdd ar gyfer pobl ifanc Cymru.
Tlodi Plant yng Nghymru: Ai Addysg yw’r Ateb?, 13/11/08 [C]
Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi canfyddiadau ei ymchwiliad ar dlodi plant ac addysg.
Deddf Plant a Phersonau Ifanc 2008, 13/11/08 [C]
Fe dderbyniodd y Mesur Plant a Phersonau Ifanc Gydsyniad y Frenhines ar y 13eg o Dachwedd 2008.
Senedd yn cymeradwyo Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, 12/11/08 [C]
Fe gafodd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Blant Hawdd eu Niweidio ei gymeradwyo gan ddau Dy 'r Senedd ar 12 o Dachwedd 2008.
Tudalen 1|2|3|4|5|6
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313